logo Mon, 23 Dec 2024 01:00:58 GMT

Hanes Cymry


Synopsis


Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dau amcan. Yn gyntaf, mae'n cynnwys, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, 'Pwy yw'r Cymry?'

Yn ogystal â'r hanes cyffredinol, ceir penodau am Gymry du, y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod ac Iddewon yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, a'r Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr.

O ran ei syniadaeth, trafodir pethau mor amrywiol â pherthynas y Cymry â threfedigaethedd a chaethwasiaeth, hybridedd grwpiau lleiafrifol, Saeson Cymraeg, a chenedlaetholdeb a hil. Wrth gloi, gofynnir ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain.

Simon Brooks